Ein Gwaith

Arddangosiadau Coginio

Mae gennym brofiad helaeth o roi cyflwyniadau coginio ac mae Nerys yn cyfrannu at raglenni teledu a radio yn rheolaidd.

Mae gan ein tîm o arddangoswyr coginio dwyieithog, medrus flynyddoedd o brofiad o ymddangos ar y teledu a’r radio, mewn g?yliau bwyd a sioeau amaethyddol, mewn cyfarfodydd lansio cynnyrch ac achlysuron preifat, ac mewn arddangosfeydd a sioeau teithiol ym Mhrydain a thramor. Ein nod yw sicrhau bod pob cyflwyniad yn bodloni gofynion arbennig yr achlysur, y gynulleidfa a’r lleoliad.