Ein Gwaith

Twristiaeth Bwyd

Yr Ysgubor Ddegwm, Eglwys Priordi’r Santes Fair, Y Fenni

Adeiladwyd Yr Ysgubor Ddegwm yn y 12fed ganrif gyda ychwanegiadau yn y 14eg ganrif.  Adnewyddwyd hi yn gyfan gwbl yn yr 21eg ganrif ac fe’i hagorwyd yn swyddogol gan EUB Tywysog Cymru. Ar y llawr cyntaf mae’r Ganolfan Dehongli Treftadaeth sy’n cynnwys arddangosfeydd ac ystafelloedd dysgu. Cawsom gomisiwn i ddatblygu’r prif ardal/daearlawr yn Neuadd Fwyd – sef derbynfa ymwelwyr a thy bwyta sy’n eistedd 80 o bobl ac yn cynnig lluniaeth i’r gymuned ac ymwelwyr i’r dre.

Cawsom gyfarwyddyd i weithio gyda phenseiri, darparwyr offer cegin a chynllunwyr er mwyn datblygu siop ffenest ar gyfer ennillwyr bwyd a diod Cymru y Gwir Flas. Datblygwyd llawlyfr safonau ansawdd oedd yn gosod criteria ar gyfer darparwyr, bwydlenni, staffio, y gwasanaeth, offer ayyb. Paratowyd dogfennau tendro er mwyn dewis darparwyr priodol, cynghorwyd ar y broses o ddewis darparwyr, rhoddwyd cefnogaeth ymgynghorol cyn ac yn ystod adeiladu a chomisiynnu, ynghyd â chyngor ymarferol a hyfforddiant staff pan oedd y bwyty wedi agor er mwyn monitro safonnau yn erbyn y canllawiau.